Y panel safoni enwau lleoedd
Mae Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys arbenigwyr ym maes enwau lleoedd ac ym maes orgraff y Gymraeg. Mae’r Panel yn dilyn canllawiau penodol wrth lunio’i argymhellion ynghylch ffurfiau safonol enwau lleoedd ac yn cynnig cyngor annibynnol i’r Comisiynydd ar faterion cysylltiedig.
Mae Dylan yn bennaeth ar Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n aelod o bwyllgor Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a phwyllgor y South Wales Record Society ac mae wedi ei ethol yn gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Bu Gareth yn darlithio yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor rhwng 1971 a 1975. Treuliodd weddill ei yrfa fel golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru lle bu’n cynghori’r Arolwg Ordnans ynglŷn ag enwau lleoedd Cymraeg ar ran Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Wedi iddo ymddeol bu’n ymgynghorydd golygyddol i’r Geiriadur, ac yna’n olygydd ymgynghorol. Roedd Gareth yn aelod o Dîm Safoni Termau a Thîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae Angharad yn ymddiddori ym maes enwau lleoedd ers dyddiau coleg ac aeth yn ei blaen i astudio ar gyfer doethuriaeth ar Enwau Lleoedd Gogledd Cantref Buellt. Mae hi bellach yn olygydd hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru ac yn un o sylfaenwyr ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
Cyn ymddeol roedd Hywel yn gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Cymru, Prifysgol Bangor. Ymddiddora’n arbennig mewn enwau sy’n dangos dylanwad y Gymraeg a’r Saesneg ar ei gilydd ac mae’n awdur ar sawl cyfrol sy’n olrhain tarddiad ac ystyr enwau lleoedd. Ymhlith ei gyhoeddiadau amlycaf yn y maes mae Dictionary of the Place-Names of Walesar y cyd â Richard Morgan (Gwasg Gomer, 2007 ac ailargraffwyd yn 2008). Mae Hywel yn un o sefydlwyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, mae’n is-lywydd anrhydeddus yr English Place-Name Society ac yn gyn-lywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland.
Geraint yw terminolegydd Gwasanaeth Cyfieithu'r Llywodraeth ac mae'n gyfrifol am gynnal a datblygu prosesau safoni termau'r sefydliad. Bu'n ymwneud â'r gwaith safoni enwau lleoedd ers 2002, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru ar Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, a chyn hynny ar Dîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd Geraint yn cyfrannu sylwadau ac arbenigedd ar ran sefydliad cenedlaethol sy'n un o brif ddefnyddwyr enwau lleoedd yn y ddwy iaith.
Mae Ann yn aelod o staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd lle mae wedi cyfrannu at sawl prosiect ymchwil yn ymwneud â barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ann yw golygydd cyffredinol Cyfres Beirdd yr Uchelwyr a gwefan Guto’r Glyn. Mae hi'n olygydd hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru, yn olygydd Bwletin Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ac yn aelod o bwyllgor y gymdeithas honno. Mae Ann yn arbenigo ar iaith a gramadeg y Gymraeg yn ogystal â barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac mae wedi ei hethol yn gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.