Neidio i'r cynnwys

Realpolitik

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Realpolitik a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 19:07, 13 Hydref 2017. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Gwleidyddiaeth neu ddiplomyddiaeth sy'n seiliedig ar ystyriaethau ymarferol yn hytrach na syniadau ideolegol, ac felly polisïau gydag amcanion cyfyngedig sydd â siawns rhesymol o lwyddiant yw Realpolitik (Almaeneg: real "realistig", "ymarferol" neu "wirioneddol"; a Politik "gwleidyddiaeth") neu yn Gymraeg realpolitic.[1] Tarddodd y term a'r cysyniad o'r Almaen yn y 19g fel ymateb i'r dadrith a deimlwyd o ganlyniad i ddiffyg realaeth mewn polisïau rhyddfrydwyr yn ystod Chwyldroadau Almaenig 1848. Defnyddir Realpolitik yn aml i ddisgrifio polisïau Otto von Bismarck, Canghellor cyntaf Ymerodraeth yr Almaen.

Mae Realpolitik yn awgrymu sylw craff at fanylder, cymedroldeb, a pharodrwydd i ddefnyddio grym os oes angen. Camddefnyddir y term yn aml fel cyfystyr am wleidyddiaeth grym (neu Machtpolitik), ac yn aml mae gan y term gysylltiad negyddol â pholisi tramor yr Almaen Natsïaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [realpolitik].

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998).